True Stories
SUZANNE WILLIAMS
Singer and Dancer
“Suzie’s recovery has been stimulated by the one to one sessions at Touch Trust. She once again has started to enjoy her life through them. When Suzie is happy we, as a family are too.”
2012 Marilyn Williams, Suzanne's mother.
Enjoyment
- Suzie has been coming to Touch Trust for a very long time. Her one-to-one sessions focus on breathing, massage, percussive exploration, enlivenment, focused movement and relaxation.
- Always with a very bubbly personality and eager to participate Suzie enjoys exploring movement, music and connections in her sessions.
- She responds with a deep sensitive understanding to the music and she has a great energy, intuition and embodiment when she moves.
A while back Suzanne unfortunately became ill and was hospitalised for a long time. Marilyn and John, her devoted parents were told by the Doctors that it was Suzie’s time to leave this world. However, Suzie defied the Doctors' prognosis and continued to fight! Marilyn and John also refused to give up hope and once Suzie was well enough to leave hospital and resume activities they brought her back to the Touch Trust Centre.
“My husband and I very much appreciated the care, concern and support shown to us by everyone at Touch Trust, especially through her (Suzanne's) illness.”
Marilyn Williams
Touch Trust's Aid to Recovery
- When Suzie came back to sessions she was depleted, her smile which had illuminated the whole of Wales Millennium Centre had gone, and her movement had no life. The Suzie who had left us was not the same Suzie who had returned.
- Through time, perseverance and encouragement however from family, friends and Touch Trust staff, small positive changes began to take place and improvements noticed.
Communication and Connections
- Suzie’s fighting spirit and determination slowly but surely became apparent and she once again communicated through her movements and connected both with the music and people around her. It was evident that she was going to pull through.
“The time Suzie spends in a session is quality time, all about her and she responds to the stimulation with Karen and her carers Gaynor and Aunty Dorothy. Suzie smiles a lot and during the sessions and even tries to talk again.”
Marilyn Williams
Stori Wir
SUZANNE WILLIAMS
Cantores a Dawnswraig
“Symbylwyd adferiad Suzie gan sesiynau un i un yn Touch Trust. Unwaith eto mae wedi dechrau mwynhau eu bywyd drwyddyn nhw. Pan fydd Suzie yn hapus, rydyn ni, fel teulu, yn hapus hefyd.”
2012 Marilyn Williams, mam Suzanne
Pleser
- Bu Suzie’n dod i Touch Trust am gyfnod hir iawn. Mae ei sesiynau un i un yn canolbwyntio ar anadlu, tylino, ymchwilio ergydiol, sirioldeb symudiad canolbwyntiedig ac ymlacio.
- Mae Suzie’n mwynhau ymchwilio i symudedd, cerddoriaeth a chyswllt yn ei sesiynau a phob amser gyda phersonoliaeth hynod fywiog.
- Mae’n ymateb gyda dealltwriaeth sensitif ddofn i’r gerddoriaeth ac mae ganddi lawer o egni, greddf ac ymgorfforiad wrth iddi symud.
Yn anffodus, ychydig amser yn ôl, roedd Suzanne yn sâl a bu’n rhaid iddi aros yn yr ysbyty am gyfnod hir. Dywedodd y meddygon wrth Marilyn a John, ei rhieni ffyddlon, ei bod wedi dod yn amser i Suzie adael y byd hwn. Fodd bynnag, roedd Suzie’n herio prognosis y Meddygon ac roedd yn dal i ymladd! Roedd Marilyn a John hefyd yn gwrthod rhoi'r gorau i unrhyw obaith a phan oedd Suzie wedi gwella digon i adael yr ysbyty a dechrau ar y gweithgareddau eto, daethon nhw â hi’n ôl i Ganolfan Touch Trust.
“Mae fy ngŵr a minnau’n gwerthfawrogi’n fawr y gofal, y pryder a’r gefnogaeth a ddangoswyd i ni gan bawb yn Touch Trust, yn arbennig yn ystod salwch Suzanne.”
Marilyn Williams
Touch Trust yn gymorth i Adferiad Suzanne
- Pan ddaeth Suzie yn ôl i’r sesiynau, roedd yn isel iawn, roedd ei gwên oedd wedi goleuo Canolfan Mileniwm Cymru i gyd, wedi diflannu ac nid oedd bywyd yn ei symudiadau. Nid yr un person oedd y Suzie a ddaeth yn ôl â’r un oedd wedi ein gadael.
- Dros amser, fodd bynnag, a gyda dyfalbarhad ac anogaeth gan y teulu, ffrindiau a staff Touch Trust, dechreuwyd gweld newidiadau positif bychan a sylwyd ar welliannau.
Cyfathrebu a Chyswllt
- Daeth ysbryd brwydro a phenderfyniad Suzie i’r golwg yn araf ond yn sicr ac, unwaith eto, roedd yn cyfathrebu drwy ei symudiadau ac yn cysylltu gyda’r gerddoriaeth a’r bobl o’i chwmpas. Roedd yn amlwg ei bod yn ennill y frwydr.
“Mae’r amser y mae Suzie yn ei dreulio mewn sesiwn yn amser o ansawdd, i gyd yn ymwneud â hi ac mae’n ymateb i’r symbylu gan Karen a’i gofalwyr Gaynor ac Anti Dorothy. Mae Suzie yn gwenu o hyd ac yn ystod y sesiynau mae hyd yn oed yn ceisio siarad eto.”
Marilyn Williams
TRUE STORIES
MARIANNE FRENCH
“The first time that I attended Touch Trust with Marianne is still very
clear in my mind; it was such a pleasure to see her engage with the
space and the session leaders. Throughout the year Marianne has
become increasingly responsive to the different activities of her
sessions; she focuses on different objects, and makes clear choices.
Her ability to understand that her actions cause reactions from others
is slowly beginning to develop, and I feel that this has largely occurred
through opportunities and encouragement given at Touch Trust. It is
as if a door has opened somewhere and Marianne recognising this
has stepped through.”
February 2012 Amanda Brown [Former carer of Marianne]
Success
•
Marianne first came to Touch Trust with her class from Ty
Gwyn School. Due to the group session, limitations were put on
Marianne’s mobility. So, it wasn’t until Marianne left school at 19
and started to come to us 4 times a week that her potential really
started to develop.
•
Being in a one to one session has allowed us to organically
adapt and tailor make the session according to Marianne’s energy
changes. These changes can be quite dramatic, ranging from
dancing and exploring the space, to relaxation and sleeping. The
emphasis being on ‘where Marianne is, is right’. She has responded
very well to this approach, and as she has become used to the
session format we have found that her energy levels have started to
follow those of the Touch Trust session, and her understanding of
what is coming next is obvious.
Focus
•
In the beginning we were careful to remove any potential
distractions from the room, and only bring out things when they
were needed. Then gradually as Marianne became more used to
the programme we started to leave things in the room and
Marianne ceased to be distracted by them, and became more
focused on the session itself.
Confidence, Choice and Decision Making
•
After attending Touch Trust four times a week for three
months Marianne’s understanding of the session grew and grew; and
with this so did her confidence. As this confidence started to develop
she started to make choices. By limiting the choice and simplifying the
situation it has encouraged her to make a decision. We started off by
offering the choice of two instruments in the beginning and end of
the session. When Marianne was able to choose between these we
introduced a choice of three instruments for percussion - this gives
her the opportunity to choose the instrument that she would like to
explore, and to create the session around her. Lots of praise and
encouragement reinforces Marianne’s confidence.
•
Gradually more choices have been introduced, including giving
her the opportunity to choose to use the beach ball or the hoolahoop
in her ‘focused exercise’ section as a tool to develop her
movements.
•
Marianne is also increasingly pushing things away, or
removing herself from them, therefore showing us when she has had
enough and is ready to move on.
By making these choices and decisions Marianne is now leading her
session in a confident manner, and creating a session within which
she is actively happy and secure
.
Self Expression and Communication
•
Marianne will sing and vocalise herself to show when she is
happy, and likewise when she is unhappy she will make very unhappy
sounds. Marianne’s father has said that he loves to hear these
sounds, even if they are unhappy because it means that Marianne is
now showing how she feels, something she was unable to do before
she started coming to Touch Trust. The ability to express herself
vocally is perhaps Marianne’s greatest developmental achievement.
STORI WIR
MARIANNE FRENCH
“Mae’r tro cyntaf i mi fynychu Touch Trust gyda Marianne yn dal yn glir yn fy meddwl; roedd yn gymaint o bleser ei gweld yn ymgysylltu gyda’r gofod a’r arweinwyr sesiynau. Drwy gydol y flwyddyn, mae Marianne wedi ymateb yn gynyddol i’r gwahanol weithgareddau yn ei sesiynau; mae’n canolbwyntio ar wahanol bethau ac yn gwneud dewisiadau clir.
Mae ei gallu i ddeall bod yr hyn y mae hi’n ei wneud yn creu ymatebion gan eraill, yn araf yn dechrau datblygu a theimlaf fod hyn wedi digwydd yn bennaf drwy gyfleoedd ac anogaeth a gafodd gan Touch Trust. Mae fel petai drws wedi’i agor yn rhywle a bod Marianne wedi sylweddoli ei bod wedi mynd trwyddo.”
Chwefror 2012 Amanda Brown [Cyn ofalwr Marianne]
Llwyddiant
Y tro cyntaf i Marianne ddod i Touch Trust oedd gyda’i dosbarth o Ysgol Tŷ
Gwyn. Oherwydd y sesiwn grŵp, cyfyngwyd ar symudedd Marianne. Felly, ni ddechreuodd ei photensial ddatblygu go iawn hyd nes i Marianne adael yr ysgol yn 19 oed a dechrau dod atom 4 gwaith yr wythnos.
Mae bod mewn sesiwn un i un wedi ein galluogi i addasu a theilwrio’n organig yn ôl newidiadau yn egni Marianne. Gall y newidiadau hyn fod yn ddramatig, o ddawnsio ac ymchwilio’r gofod i ymlacio a chysgu. Mae’r pwyslais ar fod ‘lle mae Marianne, yn iawn’. Mae wedi ymateb yn dda iawn i’r ymagwedd hwn ac wrth iddi ddod i arfer â fformat y sesiwn, gwelsom fod ei lefelau egni wedi dechrau dilyn rhai sesiwn Touch Trust ac mae ei dealltwriaeth o’r hyn sy’n dod nesaf yn amlwg.
Ffocws
Ar y dechrau, roedden ni’n ofalus iawn i symud unrhyw atyniadau posibl o’r ystafell a dod â dim ond â phethau i mewn pan oedd eu hangen. Yna’n raddol, wrth i Marianne ddod yn fwy cyfarwydd â’r rhaglen, roedden ni’n gadael pethau yn yr ystafell ac nid oedd sylw Marianne yn cael ei ddenu atyn nhw. Roedd hi’n canolbwyntio mwy ar y sesiwn ei hun.
Hyder, Dewis a Gwneud Penderfyniadau
Ar ôl mynychu Touch Trust bedair gwaith yr wythnos am dri mis, roedd dealltwriaeth Marianne o’r sesiwn yn cynyddu’n raddol a gyda hyn ei hyder. Wrth i’r hyder hwn ddechrau datblygu, roedd hi’n dechrau gwneud dewisiadau. Drwy gyfyngu ar y dewis a symleiddio’r sefyllfa, mae wedi’i hannog i wneud penderfyniad. Roedden ni’n dechrau drwy gynnig dewis o ddau offeryn ar ddechrau ac ar ddiwedd sesiwn. Pan oedd Marianne yn gallu dewis rhwng y rhain, roedden ni’n cyflwyno dewis o dri offeryn ar gyfer band taro – mae hyn yn rhoi’r cyfle iddi ddewis yr offeryn yr hoffai hi ei ymchwilio ac i greu’r sesiwn o’i chwmpas hi. Mae llawer o ganmol ac anogaeth yn atgyfnerthu hyder Marianne.
Yn raddol, cyflwynwyd mwy o ddewisiadau gan gynnwys rhoi cyfle iddi ddewis y bêl lan y môr neu’r hwlahŵp yn ei hadran ‘ymarfer gyda ffocws pendant’ fel offeryn i ddatblygu ei symudiadau.
Mae Marianne hefyd yn gynyddol yn gwthio pethau i ffwrdd neu’n ei symud ei hun oddi wrthyn nhw ac felly’n dangos pan fydd wedi cael digon a’i bod yn barod i symud ymlaen. Drwy wneud y dewisiadau a’r penderfyniadau hyn, mae Marianne yn awr yn arwain ei sesiwn yn hyderus ac yn creu sesiwn lle mae’n hapus ac yn ddiogel.
Hunan-fynegi a Chyfathrebu
Bydd Marianne yn canu ac yn lleisio i ddangos pan fydd hi’n hapus a hefyd pan fydd hi’n anhapus, bydd yn gwneud synau anhapus. Dywedodd tad Marianne ei fod wrth ei fodd yn clywed y synau hyn hyd yn oed os mai rhai anhapus ydyn nhw oherwydd bod hyn yn golygu bod Marianne yn awr yn dangos sut mae’n teimlo, rhywbeth na allai ei wneud cyn dechrau dod i Touch Trust. Y gallu i fynegi ei hun efallai yw llwyddiant datblygiadol mwyaf Marianne.
Mae mam Marianne wedi cynnwys y datganiad isod:-
“Hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad am yr holl bethau rydych chi’n ei wneud dros fy merch Marianne.
Fel y gwyddoch, mae Marianne yn dioddef gan epilepsi difrifol ac anawsterau dysgu dwys. Ar gyfer pobl fel Marianne, ychydig iawn o weithgareddau sydd lle gallan nhw gyfranogi. Mae ei sesiynau yn Touch Trust yn un o’r gweithgareddau hyn ac mae’n ei fwynhau i’r eithaf.
Yr hyn sy’n gwneud y sesiynau hyn yn gymaint o lwyddiant yw eich ymdrechion diflino chi a’ch cydweithwyr.
Mae dyddiau pan fydd Marianne yn hynod o fywiog ac eraill pan fydd hi’n hollol wahanol. Fodd bynnag, ni wn am un waith lle’r ydych chi wedi methu â’i chael i ymateb hyd yn oed ar rai o’i dyddiau gwaethaf. Mae’r cynnwrf yn dechrau yn y maes parcio a gall hyn fod yn heriol iawn i’w gofalwyr wrth geisio dod â hi atoch, cymaint ei hawydd.
Rydw i’n ymwybodol nad oes gwarant y bydd sefydliadau fel eich un chi’n derbyn arian felly cofiwch roi gwybod os bydd unrhyw beth y gallaf ei wneud i argyhoeddi’r rhai sy’n dal y pwrs fod arian sy’n cael ei wario ar Touch Trust yn arian werth ei wario.
Unwaith eto, derbyniwch fy ngwerthfawrogiad didwyll am yr holl rydych chi’n ei wneud dros Marianne a’r bobl eraill a fyddai, hebddoch chi, yn cael ychydig iawn iawn yn wir.
Yn gywir,
Helen French.”
Touch Trust Cyf, Canolfan Mileniwm Cymru, Plas Bute, Bae Caerdydd, CF10 5AL Ffôn-02920 635660
www.touchtrust.co.uk
© Rhif Elusen Gofrestredig 1078995
Hear Us!
Ymunwch!
Er mwyn cadw'n gyfredol gyda'n digwyddiadau, newyddion a syfrdandod cyffredinol i gyd, llenwch eich cyfeiriad e-bost isod er mwyn derbyn cylchlythyr misol campus: