National Diversity Awards 2014 29/09/2014
Dilys Price OBE
Yn gyntaf , diolch o galon i bawb roddodd o’u hamser i fwrw pleidlais ar gyfer y wobr hon. Yn amlwg cafodd eich ymdrechion cyfunol effaith fawr trwy sicrhau gwobr mor arbennig, gan roi cydnabyddiaeth genedlaethol i Dilys a Touch Trust am y gwaith holl bwysig a wneir gan yr elusen. Roedd yn noson, oedd yn llawn o sêr, a chyda cymaint o wynebau enwog. Yn fwy pwysig sylweddoli cymaint o bobl sy’n gweithredu er mwyn gwneud y byd yn lle gwell.
Aeth Dilys ar y llwyfan gan draddodi araith hynod ac fe ffrwydrodd Clwb Hurlingham gyda bonllefau o gymeradwyaeth gyda phawb ar eu traed.
Mae Dilys nawr o fewn argraffiad 2015 o Lyfr Recordiau Guinness.
Yr hynaf a’r ieuengaf i nen blymio
Rydym nawr wedi cyrraedd hyd at £5000 – Hanner Ffordd Yno!!
Mae Megan a finnau yn llawr gorfoledd ein bod wedi cwblhau'r hyn roeddem am ei gyflawni. Roedd y tywydd yn ardderchog gyda golygfeydd clir dros benrhyn Gwyr ac roedd pob aelod o dîm Nen blymio Abertawe mor hynod o gefnogol. Roedd Megan yn ffantastig - heb unrhyw amheuaeth o’r hyn roedd mor benderfynol o’i gyflawni er mwyn Touch Trust.
Newyddion gwych i ddathlu llwyddiant Pen-blwydd Dathlu 10 oed CMC, maent wedi rhyddhau'r cyntaf o ddeg ffilm : “Daredevil Dilys, Do Not Go Gentle”
Gallwch weld y ffilm fer o “Daredevil Dilys” grëwyd gan CMC yma: Video:
https://www.youtube.com/watch?v=cTknDRZZCmo&feature=youtu.be
Hear Us!
Ymunwch!
Er mwyn cadw'n gyfredol gyda'n digwyddiadau, newyddion a syfrdandod cyffredinol i gyd, llenwch eich cyfeiriad e-bost isod er mwyn derbyn cylchlythyr misol campus: