Director's Blog December 2014

 

       10th Anniversary of WMC

 

 

This year is the Tenth Anniversary of the WMC AND tenth anniversary of Touch Trust  entering WMC as one of the Seven Artistic Resident Companies.  We Have been celebrating........

 

Personally, as first Director and Founder of Touch Trust and creator of the Touch Trust Program, I have been having a ball.  The saying goes, "Good things are rushing forward to meet me".  I use this often to help people to be positive and have used it myself when times were difficult.

Well this celebration year good things have been rushing forward to meet me! I have been given Special Inspirational Lifetime Achievement Award from Understanding Disability  Group - Consensus : the National Diversity Life Time Achievement Award and the Wales Care Forum Life Time Achievement Award for " outstanding contribution to social care in Wales".   

 

The WMC made a film of me skydiving, featuring the Dylan Thomas poem "Do not go  gentle into that good night" entitled  Dare Devil Dilys, and lastly I am in the Guinness Book of Records as the oldest woman skydiver in the world!



 

 

 

 

I am leaving Touch Trust as Chief Executive/Director knowing that I have brought Touch Trust to a good place, nearly half a million turn over, twenty part- time and full time staff, forty Provider Member groups (including Centres of Excellence).  Over two hundred and twenty guests come to our Centre for sessions every week and our Touch Trust College of the Arts for the post nineteen transitional students with profound disabilities is now established three days a week.  Ten years ago, we came into the Centre with a £50,000 grant and two staff and no established sessions.

  What a different story today, what was my secret?

There is the Explosion Theory, taken from Geology .... It goes "positive energy always has a positive result, some form, some time, somewhere" and link that with the Methodist's saying  "do what you can to help another, as often as you can. To who ever you can.  As much as you can. Where-ever you can".

And finally, in the words of Micheal Foot  ..."our only great purpose on earth is to help those less fortunate than ourselves" ....

As the Nike advert says" just do it", robust.  Real.  Unswerving...and in the last resort just praying for strength, wisdom, courage and love.

 I look forward to seeing Touch Trust "fly" in 2015 with the new Board and our committed and selfless staff, helped by our many friends and supporters!

Happy Christmas and prosperous New Year.


 

9fed Rhagfyr 2013

Nelson Mandela

 

Bu farw Nelson Mandela ddoe. (5ed Rhagfyr, 2013) Mae'r byd yn galaru am farwolaeth y dyn hwn, a ddangosodd, fel neb arall, y pŵer i faddau a thrafod heddychlon a charedig.

Roedd e yn y carchar ar Ynys Robben am 23 o flynyddoedd ond eto roedd yn gallu maddau ei elynion. Enillodd heddwch, maddeuant, deallusrwydd, uniondeb moesol ac urddas ei frwydr dros "un dyn, un bleidlais" yn yr hyn a oedd yn ymddangos fel sefyllfa amhosibl yn Ne Affrica.

 

Mae'r dyn hwn erioed wedi bod yn arwr ac yn ysbrydoliaeth i mi. Hyd yn oed heddiw pan yw  pethau bach dibwys (hynny yw y cyfan y gofynnwyd imi ei oddef yn fy nghroesgad ar ran Touch Trust) yn fy nhroi tuag at chwerwder neu hunan-dosturi, mae ei berffeithrwydd yn fy helpu eto i weld pethau mewn persbectif, ac yn rhoi nerth imi.

Roedd hyd yn oed ei frwydr i gael gwared ar dlodi yn y byd wedi parhau tan ei farwolaeth, ac nawr mewn marwolaeth mae ei bŵer yn anferth.....mae ei ddylanwad yn parhau ac yn cryfhau.

 

Yn Touch Trust rydym yn brwydro i ryddhau unigolion a faglir mewn meddyliau a chyrff sydd wedi'u niweidio. Gadewch inni gymryd yr egwyddor hon o hunan-wadiad mae Mandela yn ei dangos inni - a mynd heb orffwys tan ein bod yn cyrraedd y nifer anferth o bobl y gall ein rhaglen eu helpu. Yma nid yw cymedroli'n opsiwn, dim ond ein hymdrech orau, ein delfryd uchaf, ein hunanaberth a wnaiff y tro.  Gadewch i Mandela fod yn enghraifft inni o'r hyn y gellir ei gyflawni gyda chariad anhunanol.

Our deepest fear is not that we are inadequate.

Our deepest fear is that we are powerful beyond measure.

 It is our light, not our darkness that most frightens us.

We ask ourselves, Who am I to be brilliant, gorgeous, talented, and fabulous?

 Actually, who are you not to be?

You are a child of God.

 Your playing small does not serve the world.

There is nothing enlightened about shrinking so that other people will not feel insecure around you.

 We are all meant to shine, as children do.

 We were born to make manifest the glory of God that is within us.

It is not just in some of us; it is in everyone and as we let our own light shine, we unconsciously give others permission to do the same

. As we are liberated from our own fear, our presence automatically liberates others.

Dyfynbris a briodolir i Nelson Mandela, gan Marianne Williamson

 

Tachwedd 2013

 

         

 

 

Yn y blog hwn rwyf yn dathlu bywyd rhywun sy'n dal i fyw

Mae hyn am fy mab.

Rhys oedd yr un a'm helpodd i gychwyn Touch Trust ac mae e wedi bod yn arweinydd a mentor byth ers hynny, gan wneud mwy nag unrhyw unigolyn arall i'm cefnogi i a fy ngwaith.

Ar ddechrau Touch Trust  :-

-rhoddodd e ein cyfrifiadur cyntaf inni

-hyfforddodd e ac ymarferodd e fel arweinydd sesiwn Touch Trust, yn cymryd sesiynau  mewn ysgolion a chanolfannau dydd, yma yng  Nghaerdydd ac ym  Merthyr -ysgrifennodd e ein cynllun busnes cyntaf, - ein taflen hyfforddiant a chyhoeddusrwydd gyntaf

-  ef oedd ein Cadeirydd cyntaf am sawl blwyddyn

- gwnaeth e ein hymchwil i'r farchnad

-  ef oedd ein Cadeirydd cyntaf gan aros am sawl blwyddyn

- enillodd e gefnogaeth gadarn Julie Morgan (ein AS lleol) - aeth e â'n cyhoeddusrwydd cyntaf at Syr Alan Cox gan ennill ei gefnogaeth i fod yn Breswylydd Artistig yn WMC - Ymgysylltodd â'r cynlluniau cyntaf ar gyfer ein Canolfan  gyda'r Pensaer Percy Thomas 

- symudodd e i Lundain er mwyn cymryd swydd fel gweithiwr cymorth ac i fod yn nes at ei bartner

- Yn Llundain rhoddodd gymorth i ddyn ag awtistiaeth gan ei helpu i redeg  ac i arwain cynhadledd

- cafodd e ei ddewis yn benodol i ddod yn  Rheolwr Pobl yn Gyntaf Lambeth

-Arweiniodd e'r tîm gan droi eu ffawd wael o gwmpas  ,gan ddod â sefydlogrwydd ac yn treblu eu cyllid o fewn tair blynedd

- roedd ei ymrwymiad i "ei bobl" yn llwyr.

 

Yna llynedd cyhoeddodd Lambeth eu bod yn tynnu cyllid yn ôl  ; cauodd Pobl yn Gyntaf Lambeth i lawr!

Aeth fy mab , Rhys, â nhw at y llys, yn y pen draw at yr Uchel Lys  gan ennill yr achos - buddugoliaeth foesol oherwydd i Lambeth gyhoeddi nad oedd unrhyw arian ar ôl erbyn hynny. Ond roedd yn fuddugoliaeth foesol, wedi'i hennill yn araf a gydag aberth, deallusrwydd, dewrder ac uniondeb personol mawr.

 ( Dyma'r tro cyntaf erioed yn hanes anabledd  i Ddefnyddiwr Gwasanaeth wneud hyn - ac roedd hon yn fuddugoliaeth i Rhys  ( a'i dîm.))

Dw i'n falch iawn o'm mab, ei gariad a'i dosturi tuag at ei gymheiriaid. Erbyn hyn mae e'n Ddirprwy  Reolwr Mencap Lambeth.

 

Mae e'n gŵr gwych ac yn dad i ferch fach, Edith , a Sidney ei fachgen bach.

Dyma'r cefndir i'r gerdd brôs a anfonais i Rhys...

 .

 

....Dyma'r amser.

           Dyma'r amser.         

Mae fy nghalon yn agor,

Mae tswnami o gariad

Yn llifo ymlaen.

 

Ymhell i ffwrdd-.

Mae calon fy mab hefyd

Yn agor - mae cariad yn llifo

- Gyda'n gilydd rydym yn

Anorchfygol.

 

Mae ei amser wedi dod

Ei amser tywyll

Ildiwch i olau a chariad

 

Mae ei ddagrau wedi sychu

Mae amser ei "Waith" wedi mynd heibio

Fel a wnaeth f'un i.

Mae gwyrth alcemi

Wedi dod ato

Fel a wnaeth i mi

 

Dynoliaeth Dyner

Diolch

Ni yw gweithiwr eich golau

Rhoddwch bŵer a llawenydd inni

Gwasgwn y tywyllwch

Ble rydyn ni

Gyda'n gilydd ond ar wahân

Yn gwneud gwahaniaeth....

Yn rhannu cleddyf cariad.

 

 

Frances Medley

Teyrnged gan Touch Trust.

http://ccq.wpengine.com/wp-content/uploads/2013/09/Fran-portraits-at-home-357.jpg

 

Dw i eisiau ysgrifennu am fenyw ryfeddol, ffrind a chydweithwraig, a fu farw'n hwyr ym mis Medi tra bues i yn India, gan adael y byd yn lle gwaelach.

Oherwydd ei hymyrraeth hi yn gyfangwbl y cawson ni'r arian i ddod i mewn i'r WMC. Mae arnom ein lle yma iddi hi ac wrth gwrs felly mae arnom ein llwyddiant iddi hi. Mae ar Touch Trust gymaint iddi hi, yn sicr iawn mae arnom ein llwyddiant iddi hi.

Dyma'r stori.

Roedden ni heb arian, ond wedi cael ein gwahodd i mewn i Ganolfan Mileniwm Cymru. Roedd Syr Alan Cox, y Cadeirydd ysbrydoledig a gweledigaethol cyntaf, wedi rhoi lle inni yma  fel un o'r saith Preswylydd Artistig gydag Opera  Cenedlaethol Cymru, Cwmni Dawns Diversions, Ty Cerdd ( cerddoriaeth), Academi Llenyddiaeth Cymru, Yr Urdd, a Hy Jinks (cwmni dawns cynhwysol), hyd yn oed cyn bod  un garreg wedi ei gosod. Ei weledigaeth oed i adeiladu Canolfan eiconig, cynhwysol a hygyrch a fyddai'n ysbrydoliaeth i'r byd.

 

Gwyddem fod ein rhaglen gelf symud creadigol yn unigryw a'i bod yn torri tir newydd ym myd anabledd, wedi'i seilio fel ydoedd ar athroniaeth, dadansoddiad symud ac arferion Laban (fy athro) - ac yn ddiweddarach hefyd ar fy ngwaith fy hunan  fel darlithwraig am fwy na 35 o flynyddoedd mewn adran AC fawr, mewn coleg addysg uwch, yn addysgu Dawns, AC ymaddasol a'r Celfyddydau Creadigol. (Pan oeddwn hefyd yn ddigon lwcus i ddarlithio fel Ymgynghorydd mewn llawer o ardaloedd yn UDA a'r DU.) Roedd fy ymchwil ddiweddarach ar ôl ymddeol wedi golygu sefydlu, yn y lle cyntaf, raglenni hyfforddi dilys cenedlaethol am Gelf Symud ar gyfer Gofalwyr Anghenion Arbennig a Dawns Anffurfiol   ar gyfer Anghenion Arbennig a hefyd yn y man ffurfio'r elusen, Touch Trust.

 

Ar yr amser yna roedd Frances Medley yn Brif Weithredwraig Dros Dro gyda Chyngor y Celfyddydau Cymru Fel un o'r darpar Breswylwyr  Artistaidd, roeddem wedi mynd trwy'r holl weithdrefnau ynghylch cymorth ariannol dros y ddwy flynedd diwethaf oddi wrth CCC gan dderbyn sicrwydd bod popeth yn iawn ynghylch ein cymorth ariannol i mewn i WMC.

Dychmygwch ein dychryn pan gyrhaeddodd llythyr inni, ychydig cyn mynd i mewn i'r Ganolfan, nad oedd unrhyw arian yn weddill inni. Dywedodd Roy  Campbell Moore , sylfaenydd Diversions, a oedd wedi bod yn rhan o bwyllgor gwreiddiol y Pwyllgor Preswylwyr, gyda ni, wrthym am fynd at Frances ," hi yw'r gorau - a bydd hi'n helpu ". Ac fe wnaeth achubiaeth gyrraedd trwyddi hi. Ysgrifennodd hi lythyr at Gynulliad Cymru, yn datgan ein hachos - ac i dorri stori hir yn fyr, rhoddon nhw'r arian, wedi'u neilltuo, inni drwy CCC a symudon ni i mewn ym mis Tachwedd 2004!

Dw i'n gwybod y gall llawer o unigolion a  sefydliadau adrodd straeon tebyg; roedd gan Frances ddoethineb, eglurdeb ac uniondeb ac ymrwymiad i gamau gweithredu iawn. Roedd hi'n ddiflino yn ei chymorth, hyd yn oed ar y diwedd pan oedd ei chorff bron wedi'i ddinistrio - disgleiriodd ei hysbryd drwodd fel seren arwain i newid pethau er gwell.

Roedd hi'n fenyw hyfryd, ffrind hael i lawer, ffraeth, doniol ac uchel ei hysbryd - fenyw o sylwedd ac arddull, fenyw glyfar, ddeallusol ac mor ddeniadol.

Roedd hi'n bŵer dros newid yn y Celfyddydau yng Nghymru yn ystod ei bywyd. Mae ei hetifeddiaeth yn byw ymlaen... a chredaf y bydd hi'n fwy nerthol yn ei dylanwad er ddaioni ar ôl iddi farw. Bydd ei dylanwad yn mynd ymlaen.

Diolch Frances, mae cymaint ohonon ni'n eich caru a hefyd yn eich diolch.

Ar ôl talu fy nheyrnged olaf heddiw yn Eglwys St. Gabriel Cwmbran, I Chris Hallam MBE

 

Mae pobl fawr sy'n newid y byd er gwell mewn ffordd arwyddocaol, sy'n GWNEUD GWAHANIAETH i fywydau..... Roedd CHRIS Hallam yn ddyn o'r fath. Roedd e'n arloeswr dros chwaraeon anabl ac yn fodel rôl, pegwn o obaith i gymaint a oedd yn wynebu amseroedd anodd. Trwyddo e, daeth chwaraeon anabl yn barchus gan gael eu cyhoeddi a'u datblygu.

 

 Dw i'n ei gofio gyda'r egni hwn a chariad tuag at fywyd, yn gyrru trwy fywyd fel tswnami er mwyn bod y gorau y gallai fod mewn chwaraeon ac i fod ar dân i bobl eraill hefyd. Roedd e a John Harris yn gweud cwpl hudolus ac anwelladwy, llawn hwyl, hiwmor; amharchus ac yn llawn egni i gyflawni'r gorau mewn bywyd a chwaraeon.

 

Roeddwn i'n ei adnabod e achos bod John ac e gydag Ewart Parkinson wedi ffurfio PVSH gyda'r freuddwyd o greu Canolfan Chwaraeon integredig lle gallai athletwyr eilitaidd, pobl anabl neu nad ydynt yn anabl hyfforddi gyda'i gilydd.

 

Roedd hwn yn gysyniad unigryw, yn codi chwaraeon allan o therapi ac ailsefydlu (er, wrth gwrs, ei fod yn therapiwtig i bawb). Roedd adeiladu'r Ganolfan mewn Coleg Addysg Gorfforol Arbenigol, yr hyn a wnaed yn 2000 yn ( UWIC), yn garreg gyntaf ac yn drobwynt a bloc adeiladu ar gyfer yr hyn sydd wedi digwydd ers hynny, gyda thwf a statws y Paralympiaid.

A gwnaeth Chris hyn heb y rhwydwaith sydd o gwmpas heddiw..... Yn bvenderfynol, unigol, hael a thosturiol - roedd e'n arbennig trwy'r amser ac roedd ganddo dynged.

 

Roedd e'n wir i'w dynged, cyflawnodd e'r hyn roedd wedi dod i'r ddaear i'w wneud.

 

 Roeddwn i'n caru Chris fel cymaint o bobl a oedd wedi'u cyffwrdd ganddo yn ei wneud - carismatig, deniadol ei ymddangosiad ac yn swynol ac agored ei gymeriad.

 

Fe wnaethoch gymaint i wneud y byd yn lle gwell, fel y gwnaeth ein ffrind Paul Jenkins yr athletwr a wnaeth 99 marathon cyn colli ei olwg. A chyn hynny Dave Winters, y cyn-filwr rhyfel a oedd y cyntaf i newid canfyddiadau trwy ei agweddau cadarnhaol, ei haelioni a'i ddewrder moesol a chorfforol.

 

 

Fel cyfarwyddwraig a Sylfaenydd Touch Trust, beth dw i'n credu ynddo?

Y mis yma mae'r farn yn bersonol a goddrychol iawn. Mae'r barnau'n perthyn i fi a dydyn nhw ddim yn adlewyrchu barnau swyddogol, di-grefydd, Touch Trust.

 

Yn 81 oed dylwn i fod yn gallu gwybod beth dw i'n meddwl am y bywyd hwn dw i'n ei fyw.

Dim yn rhwydd

1. Ar brydiau mae'n anodd, fel "dyffryn dagrau." Ar brydiau eraill, mae'r haul yn disgleirio ac mae'n ymddangos fel lle sy'n llawn harddwch.

2. Mae dewrder yn ei wneud yn well, dewrder i deimlo  eich bod yn rhyfelwr,(gydag eraill) i helpu ble gallwn ni, drosom ein hunain - to, gwres, bwyd, diogelwch - a hefyd dros bobl eraill gymaint â sy'n bosibl i rywun - heb dinistrio'ch hunan.

3.Mae dyletswydd i oroesi dros  eich hunan, a'ch teulu - ac yna i ofalu am bobl eraill.

 

 

I fi mae'n ymddangos mai hynny oedd yn wir, yn mwynhau cysur cymhedrol i'ch hunan a hefyd i'ch teulu - ond i feddwl am bobl eraill hefyd. Yn fy achos i mae hynny'n golygu ychydig o arian a roddir i achosion fel digartrefedd, bwlian, gofal anifeiliaid. Ond y gwthiad oedd i addysgu gystal ag yr oeddwn yn gallu, yn cyflwyno Lles trwy gelf symud a thrwy cysylltiad gofalgar gyda phawb dw i'n eu haddysgu neu'n gweithio gyda nhw ---- AC mynd â'r rhaglen ddilynol (Touch Trust) sy'n newid bywydau, yn gyntaf i’r oedolion a phlant hynny sy'n anabl IAWN.

Dw i'n fy ngwthio fy hunan at yr ymyl ac yna rhywfaint ymhellach, am hyn.

Mae hynny'n fy ngwneud i'n hapus.

(Byddwn i wedi hoffi byw rhywle hardd, wrth y môr neu gyda golygfeydd hardd a byw mewn tŷ hyfryd. I fi, dydy hyn ddim wedi digwydd- gan fod fy ffocws wedi bod mewn man arall)

Dw i'n hapus fy mod i wedi gwneud gwahaniaeth i rai o'r bobl anabl iawn a'u teuluoedd a'u helpwyr - a bod gen i'r cryfder a'r cyfle i wneud mwy. Mae hyn yn rhoi hapusrwydd imi sy'n fy nghynnal.

I fi, mae hynny'n ddigon........

Fel rhyfelwraig dros olau dw i wedi gwneud gwahaniaeth hyd at eithaf fy ngallu.

(Fel mam sengl, dydy bywyd ddim wedi bod yn hawdd trwy'r amser, ond dw i mor falch o Rhys, sy'n gofalu, sydd ag uniondeb, aeddfedrwydd, cariad a mwynhad bywyd, cryfder moesol ac sy'n gweithio'n rhagorol ar ran pobl sy'n anabl. Mae gen i ŵyr ac wyres sy'n hyfryd ac arbennig, y bydd Rhys yn eu magu gyda'r gwerthoedd cywir. Mae hynny oll yn rhoi boddhad dwfn imi. Heb anghofio fy merch-yng-nghyfraith hardd yr wyf yn ei charu yn yr un modd.)

Dw i'n caru Duw neu'r 'daioni terfynol' ac yn gweld Crist fel cyflawniad llwyr gwaredigaeth dyn trwy aberth. Mae Alchemi'n rhedeg trwy fodolaeth ar bob lefel.

Dw i'n gweld patrwm o alchemi yn y bydysawd sy’n fy ngwneud yn fodlon i fod yn Gristion .  I fi, ei farwolaeth ar y groes a'i Atgyfodiad oedd yr alchemi sylfaenol y "gwyrth", yn gwaredu dynolryw.

Er fy mod i'n credu "y gwelwn drwy wydryn yn dywyll" mae gen i'r ffydd ddofn honno mewn Gwaredigaeth ac yn y pen draw mewn byd gwell - Paradwys.

Felly mae gen i obaith - y llawenydd hanfodol, sylfaenol.

7.7.13

 

Fy ngweledigaeth...

Tswnami  yn rhedeg o'm calon

Anorchfygol ac

Yn arllwys

Cariad

Yn dechrau fel afon

Yn y blynyddoedd cynnar,

Yn dod yn llifeiriant

Wrth inni adeiladu sylfaen.

Sarn ar gyfer dŵr sy'n syrthio

Ag ymyl fel enfys -

 

Pŵer nawr,

Yn peri newid  -

Ond heb fod yn ddigon  ;

 

 A fydd cyn bo hir yn   gefnfor -

Yn boddi poen ac

Yn cyflwyno bywyd a chwerthin,

Yn atal dagrau.


Yn eich newid  chi

sydd wedi'ch pylu

 gan ofn-

Wedi marw

  trwy ymlid

Statws , pŵer, nwyddau -

Yn boddi mewn poen arall

 ynghylch gwahanu

ac euogrwydd distaw.


Mae cariad yn ysgafnhau,

Mae cariad  yn cyflwyno cân,

Mae cariad yn cysylltu

ac yn rhoi

Ac yn iacháu.......   

 

 

 Tswnami wedi'i llonyddu a'i thawelu

Mewn heddwch ac yn fodlon,

Mae fy mhŵer wedi treulio.......

Mae eraill yn cymryd fy lle

Eu tro nhw i lifo

Gyda phŵer

Y cam nesaf.........    Y lefel nesaf!


DRINGWCH  RAEADR CARIAD

O'r diwedd  ni yw

 yr  enfys..........

Byd newydd,

Bydysawd o gariad.


 

Mehefin ’13 

Sesiwn Touch Trust dydd Gwener 3.00 pm

 

Dw i am rannu gyda chi'r sesiwn Touch Trust hwn. Fel pob un o'r sesiynau, mae e bob tro'n anturiaeth ar y cyd sy'n cynnwys y gofalwyr hefyd. Rhennir llwyddiant gyda nhw a gyda ni.

Fel y gwyddoch does neb yn cael ei droi i ffwrdd am unrhyw reswm. Oherwydd hyn y daeth Touch Trust i fodolaeth.

Fe wyddem y byddai'r sesiwn hwn yn her

Dechreuodd y sesiwn hwn yn wael, gyda " Jonn" dan gymaint o bwysau, roedd e'n poeri a tharo allan wrth ddod i mewn i'r ystafell ac roedd yn aros yn wyllt  trwy gydol hanner cyntaf y sesiwn un-wrth-un hwn.

Ond gweithiodd gwyrth  Touch Trust  eto!

Yn y diwedd, roedden ni I GYD yn dal ein dwylo ein gilydd...... roedd gwenau ymhobman, gan gynnwys Jonn!!

 

“Mae'r Cylch Cyfeillgarwch hwnnw.                      

Yn rhoi gobaith imi.

Mae'r sesiwn yn dechrau gyda chiciau, ofn, pellter.

Dau staff

Dau " angel” wedi'u celu

Cyhyrog, gwrol, tirion,

Cariad wrthi

 

Ond oddi-ar-y-wal-

Nid disgwyliad cymdeithas  neu'n disgwyliad ystrydebol ni

Ond cariad ym mhob gweithred.

Ar y dechrau gall ein ffrind annwyl ond

Aros yn ei barth cysur, yn amddiffyn gofod.

Dim dawn siarad, felly'n cadw gofod yn yr unig ffordd y gall,

 Yn cicio ac yn poeri

 

Trwy ofn er mwyn cadw ei ofod gwerthfawr.

Ond, wrth i'r sesiwn ddod i ben, mae'n cymryd fy llaw

Y cylch wedi'i gau ganddo.

Mae e'n arwain siglo tirion,

Â'i lygaid ar gau,

Gwên fach.

 

 Mae e'n stopio,

Rydyn ni'n atseinio'r saib hwn,

Mae e'n curo'i ddwylo

Rydyn ni'n ei ddilyn.

 

 

Hwrdd o gariad

 llawenydd gweladwy am eiliad o dragwyddoldeb,

 

Am eiliadau fel hyn

Rydyn ni'n byw!

Mae'r Cylch Cyfeillgarwch hwnnw'n rhoi gobaith imi......

Rydyn ni i gyd yn fodlon.....

….. Byddwn ni'n cysgu'n dda eto heno

 

 

 

Y Plymiad Wybren

 

Ymadael

 Rholio

 Cwtshio'n dyn

 Cwymp yn cyflymu

Pyyyyyylnnnnnuuuuuuuuuuuu

Dw i'n agor fy nghorff, mae aelodau'n gwthio allan

 --HEDIAD WEDI'I ATAL—

 Dal i hedfan yn gyflym ond ind yn gadarn.

 

 

 Ymhell i ffwrdd gwelaf y ddaear werdd, nid y pylni symudol mwyach.

Mae delweddau'n dod yn fwy- meysydd, môr, adeiladau.

Mae ffocws yn gwahanu nawr, eiliad o hurtrwydd sydd am aros

Yn y byd ecstatig hwn.

 

Rhaid imi rwygo fy enaid i ffwrdd o'r llawenydd hedfan hwn, byw afradlon -

Yn gaeth i'r daith ddisgynnol.

 

 

 Perygl nawr,

Rhaid i ddisgyblaeth gymryd drosodd, neu byddaf farw.

 

Felly dw i'n gwylio fy arddwrn, yn gadael y byd hwn yn y nefoedd

Ffocysu ar altimedr a'r llaw yn symud yn gyflym tuag at GOCH.

 

 

Synnwyr arall o sicrwydd terfynol, llawenydd arall

 mae fy llaw yn ymestyn i deimlo'r cylch lledr o ddiogelwch.

Dw i'n tynnu'n galed

Mae eiliad o angau

YN AROS----

 

 

Yna ces i fy nhynnu i fyny gan ddisgyrchiant, mae fy nisgyniad yn dod i ben.

Yn arnofio'n araf, araf,

Ysgafn

Araf

Myfyriol

 

Synfyfyriol ond yn wahanol i'r dwysedd blaenorol uniongyrchol

O fodolaeth uwch.

 

                                                               Dilys Price OBE  © 2013


 

 

16eg Ionawr ‘13

Dyma'r diwrnod yr aethpwyd â'm ffrind annwyl Paul Jenkins i Baradwys. Fydda i ddim yn galaru amdano, gan fod ei fywyd yn fywyd o dynged.

 Roedd e'n fod dynol anghyffredin. Cwrddes i ag e pan oeddwn i'n darlithio yn UWIC a daeth Paul i ymweld â ni i siarad â'm myfyrwyr chwaraeon am ei fywyd fel athletwr - yn gwneud 99 marathon , yr Ultimate Road Race yn America ac yn rhedeg i fyny'r Empire State Building; yn codi miliynau ar ran elusennau, ac yna o fewn chwech wythnos - yn mynd yn ddall!

 

 

O hynny ymlaen daeth e'n ffrind  i mi ac i fy myfyrwyr. Hyfforddodd un fyfyrwraig, Emma, gyda fe i wneud marathon; daeth e'n ymddiriedolwr PVSH, yr hwn a sylfaenodd, gyda rhai o'm myfyrwyr, staff ac  athletwyr anabl eraill, Ganolfan Chwaraeon Cymru i'r Anabl  ac roedd e'n Ymddiriedolwr cychwynnol  ac yn aelod o Touch Trust ,(ac aeth e ymlaen i godi arian inni, i'r Gymdeithas Cŵn Tywys  ac elusennau eraill hyd at ddau filiwn syfrdanol!)

 

Yr hyn roeddwn i'n ei garu am Paul yw ei fod yn eicon chwaraeon pan oedd e'n gallu gweld, yn dangos dewrder anferth yn ei rasio, ac ar ôl mynd yn ddall roedd e'n eicon i lawer ond yn arbennig i blant ysgol ledled y wlad. Roedd yn  rhyfeddol ei fod e'n  esiampl y gallai plant ei edmygu yn hytrach na'r   gwawdluniau gwag sy'n gwneud y penawdau heddiw. Bydden nhw'n gwrando'n astud ar ei straeon a adroddwyd  gyda  hiwmor tirion. Byddai e'n egluro sut oedd e wedi gwneud bywyd i ymfalchïo ynddo, i'w fwynhau  er ei fod wedi dod o le o anobaith. Rhoddodd e'r gogoniant am hyn i Dduw. (Roedd ganddo ffydd go iawn yng nghariad a gofal Duw.)

 

Dangosodd e ddewrder ysbrydol a oedd yn cyfateb â'i fedr corfforol. Trwy'r amser roedd e'n ostyngedig a swil, yn hael a  chynnes - dyn Duw yn wir.

 

Bydda i'n gweld dy golled Paul , ond fydda i ddim yn galaru ……..

Ysgrifennodd y bardd ac athronydd  Gibran am  harddwch y rhoddwr – gallai hyn fod wedi'i ysgrifennu am  Paul ac  mewn gwirionedd mae'n egluro'n union  harddwch Paul a'r hyn a roddodd i fywyd…..

 

 

   “Rydych yn rhoi ond ychydig pan roddwch eich meddiannau.

 

    Ond pan roddwch o'ch hunan rhoddwch yn wirioneddol.

 

    Dyma'r credinwyr mewn bywyd a haelioni bywyd,

 

              ac nid yw eu coffrau byth yn wag.

 

    Mae 'na'r rhai hynny sy'n rhoi gyda llawenydd ac mae llawenydd yn wobr iddyn nhw.

 

   ……………………………

 

    Mae nhw'n rhoi fel yn y dyffryn acw lle mae'r fyrtwydden yn anadlu ei melyster i'r gofod.

 

 

Trwy ddwylo'r fath bobl â'r rhain mae Duw yn siarad, ac o'r tu cefn i'w llygaid mae Ef

 

           yn gwenu ar  y ddaear.”

 

 

  • Ar ddydd Gwener,10fed Mai, mae teulu Paul yn trefnu  Noson Gymdeithasol yng Ngwesty'r Wharf yn y Bae, Caerdydd. Dewch i ymuno â ni am   ddigwyddiad codi arian Paul ar ran Touch Trust. Byddwn ni'n cael hwyl!!
  • Hefyd mae gan Saffron, ei nith, deyrnged i Paul ar Face Book os hoffech chi wybod rhagor am ei fywyd syfrdanol.

 

 

10fed Ionawr  ‘13

Wythnos ddiwethaf es i i weld Phantom of the Opera yng Nganolfan Mileniwm Cymru ac eto roeddwn i wrth fy modd.

Roeddwn i'n teimlo pŵer ei neges yn llawer gryfach nag erioed. Mae sioe gerdd Lloyd Webber yn tanlinellu tosturi fel y mynegiad uchaf o gariad. Fe'm tarwyd yn galed ac atgoffodd e fi am bŵer athroniaeth ac ymarfer    Touch Trust, mewn  lle bach mewn rhan arall o'r un adeilad  ble rydyn ni'n cyffwrdd â bywydau pobl hyglwyf.

Gweles i hynny mor glir.

 

Yn ein bywydau rydyn ni'n ymestyn tuag at y purdeb hwn o gariad. Rydyn ni'n trio mor galed, ond dim ond yn llwyddo i ddeall beth yw cariad   mewn ffordd amherffaith iawn.

Methodd fy mhriodas gan fy mod i'n meddwl bod cariad yn golygu  atyniad, rhamant, rhyw, angen. Pan syrthiodd y rhain i ffwrdd yn y man roeddwn i wedi fy nadrithio ac yna chwilies i mewn man arall am gariad.

 

I gymaint ohonon ni, yn anffodus, dyma ein taith. Yn baradocsaidd dw i'n gwybod hefyd, os mai dyma  ble rydyn ni,   mae'n rhaid inni fyw trwy hyn, bod yn onest  ac yn ddilys   ar ein taith. Mae'n rhaid i ddysgu fod yn ystyrlon, a'r   unig ffordd i gynyddu yw   i ddioddef gyda dewrder heblaw am fwynhau byw gyda dewrder.

Dim ond nawr,   yn derfynol, heibio i ramant, atyniad a rhyw, wedi dioddef a dysgu a cheisio caru,   y galla i mewn rhyw ffordd fach fwynhau ynni hardd tosturi.

Mae'r Ganolfan Touch Trust   yn dir maethlon am dosturi. Yma mae cariad tosturiol yn ein tynnu i mewn   i'w freichiau. Rydyn ni'n dysgu i roi a gofalu ac i wybod y llawenydd o'r ehangiad hwn o'n hunan-les er mwyn cwmpasu eraill.

Des i ar draws cerdd roeddwn i wedi'i chyfansoddi pan oedden ni'n chwilio am rywle i leoli Canolfan Hapusrwydd pymtheg mlynedd yn ôl a bues i gyda Don, dyn ifanc a oedd angen harddwch gymaint i wrthbwyso poen ei fywyd anhapus. Wrth inni siarad am ein huchelgeisiau, edryches i i lawr a gweld deigryn yn rhedeg i lawr wyneb Don!

Dyma'r gerdd ac erbyn hyn mae gan Don Y Ganolfan hardd hon ac mae'n dod aton ni bob wythnos. Rydyn ni wedi'i gyfoethogi e, ond mae e wedi cyfoethogi ein bywydau ni (   pob un yn cyfoethogi'r llall, sef rhodd ryfeddol ac unigryw tosturi.)

 

Canolfan Hapusrwydd i Therapi Cyffwrdd ac Iacháu Rhythmig 1997

 

Cariad eich dagrau yw'r sêl.

Mae'ch anhapusrwydd yn fy llethu. Wrth inni siarad

Syrthiodd un deigryn.

Bron yn ddisylw

Wrth inni siarad am ein cariad atoch chi -

A'r Ganolfan Hapusrwydd

Dw i'n breuddio amdani, a ble gallech chi, Don,

Deimlo ein cariad

Trwy gyffwrdd, mewn lle hardd,

(Heulwen, dŵr, cerddoriaeth a harmoni lliw.)

 

 

Clywsoch chi ni'n siarad a syrthiodd un deigryn.

Byddwn ni'n ei chael hi, i chi ac i eraill.

Cariad byddwn ni'n cael hon, i chi ac i eraill fel chi.

Nid yw'r gorau'n ddigon.

Eich dagrau yw'r sêl….

 

 

 

 Mae'r Nadolig  yn nesáu

Dyma fy ail flog – ychydig cyn y Nadolig! Fe gawson ni ddigwyddiad Nadolig hyfryd 'Rhannu a Dangos' o weithgareddau mynegol myfyrwyr y Coleg wythnos ddiwethaf. Hwn oedd   yr wythfed  ‘Rhannu a Dangos’ Nadolig   ar lwyfan Glanfa – a'r GORAU.

Roedd mynegiad creadigol dilys pob myfyriwr yn gwbl syfrdanol, tra oedd llawenydd digymell  y myfyrwyr a'r staff yn effeithio ar y gynulleidfa mewn ffordd gadarnhaol iawn. Roedd dagrau, gwenau,  chwerthin a  chofleidiadau .

Hwn oedd gwir ysbryd y Nadolig,  dathliad  o gariad ac amrywiaeth; mynegiad dilys  yn cael ei roi'n hyderus ac yn cael ei dderbyn gyda llawenydd  a'r teimlad anochel    o  les  ac hapusrwydd a ddaeth  i'r rhoddwr a'r derbyniwr fel ei gilydd.


Rhagorodd Claudia Mollzahn a Liz Harris. Rydyn ni mor ffodus i'w cael yn arwain y Coleg, diolch ichi'ch dwy. Mae eu rhagoriaeth a rhagoriaeth anhunanol yn galw i'r cof yr hyn yr ysgrifennodd Helen Keller,

 

“Dw i'n dyheu am gyflawni tasg fawr ac aruchel ond fy mhrif ddyletswydd yw

 

        cyflawni tasgau llai fel eu bod yn fawr ac aruchel.”

 

Fel y dywedodd Mother Teresa un tro ,

“ Gwnewch bethau bach gyda chariad mawr”


Wedi'r cyfan, ar amser Nadolig rydyn ni'n dathlu'r anrheg fwyaf olll  – Genedigaeth, Angau ac Atgyfodiad Crist; pa grefydd bynnag rydyn ni'n ei chefnogi, mae'n golygu cariad a daioni  a buddugoliaeth Golau!

Tan y Flwyddyn Newydd mwynhewch eich hunain a dathlu BYWYD.

 

Edrych yn Ôl i Dachwedd 2004

Dyma'r mis wyth mlynedd yn ôl pan gymeron ni feddiannaeth o'n gofod penodedig yn y Ganolfan Mileniwm Cymru newydd. Roedd dim ond dau ohonon ni pryd hynny, ein Rholwr Busnes a benodwtd yn ddiweddar (wedi'i secondio o Fanc Barclays) a fi fy hunan.

Ar 26ain Tachwedd, 2004 agorodd y WMC yn swyddogol gyda pherfformiad gwych  ar lwyfan Donald Gordon ac roedden ni'n rhan ohono e - ar y llwyfan gydag aelodau o'r chwe Phreswylydd Artistig eraill - noson ac amser byth i'w anghofio.


O ddim byd - ysgrifennon ni i ysgolion a chanolfannau dydd a thai cymunedol ble roedd gen i gysylltiad yn eu gwahodd i ddod i sesiynau Touch Trust – dechreuon ni ychydig o sesiynau  bob wythnos yn ein Canolfan.

Dw i'n synnu pa mor bell rydyn ni wedi dod  ac i ddathlu ein taith ryfeddol dw i'n mynd i ddechrau blog misol.


Yn fy mlog bydda i'n adrodd ein stori, dathlu ein llwyddiant, ysgrifennu am ein nodau ar gyfer y dyfodol a dweud diolch  i Dduw - neu i'r Bydysawd os yw'n well gyda chi - ac i ffrindiau).

I orffen y blog cyntaf hwn bydda i'n dyfynnu o (yr hyn y gellir ei weld nawr fel datganiad rhagweledol) ein taflen gyntaf oll a ysgrifennwyd yn1996 pan edrychon ni ar garejis gwag a phlastai heb gysyniad o unrhyw beth fel yr WMC ac roedden ni heb yr un geiniog!

Hyn oedd ein gweledigaeth 10 mlynedd yn ôl - erbyn hyn mae'n realiti…..


Allwch chi ddychmygu "Eglwys gadeiriol o Olau", man hardd lle gall y bobl hynny ag anghenion arbennig dwys gael eu cyffwrdd a gellir cyrraedd eu heneidiau a gallwn ni weld eu llygaid wedi'u hagor  gan ddatgelu llawenydd a chariad?

Yn ein tro, rydyn ni fel helpwyr hefyd yn cael ein cyffwrdd ac yn cael ein goleuo ganddyn nhw - mae rhyngweithiad hardd yn digwydd sydd o les iddyn nhw ac i ni. Yn y diwedd rydyn ni'n deall bod ganddynt feddyliau ac eneidiau diniwed o harddwch mawr a dyheadau fel sydd gyda ni.

Yn y lle hardd hwn, cyflwynir rhaglen ar sylfaen un wrth un sy'n annog perthnasau personol agos. Caiff yr harddwch ysbrydol hwn ei briodi â'r adeilad harddaf y gallwn ei ddyfeisio, a fydd yn ymgorffori celf, lliw, symudiad, cerddoriaeth a sain, rhythm, arogl a therapi.

Mae'r freuddwyd hon eisoes yn realiti o ran rhyngweithio unigol hardd rhwng ychydig. Rydyn ni'n gwir angen cefnogaeth a nawdd er mwyn i'r lle hardd hwn lwyddo ac er mwyn i fwy o bobl elwa.

Rydyn ni'n garfan fach o bobl sy'n ymroddedig i'r freuddwyd hon, fyddwch chi'n ein helpu ni?

“Ein nod tra'n bod ni ar y ddaear hon yw mynd uwchlaw ein lledrithiau a darganfod pŵer hanfodol ein hysbryd. Rydyn ni'n gyfrifol am yr hyn rydyn ni'n ei greu, ac felly mae'n rhaid inni ddysgu i weithredu a meddwl gyda chariad a doethineb ac i fyw mewn gwasanaeth i bobl eraill ac i fywyd i gyd.”

Caroline Myss

Daeth ein gweledigaeth yn wir ac mae'r canlyniad yn realiti y tu hwnt i'r hyn roedden ni wedi breuddwydio amdano!